Y Pwyllgor Deisebau

 

Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd

 

 

 

Dyddiad:

Dydd Mawrth, 29 Ionawr 2013

 

 

 

Amser:

09:01 - 10:36

 

 

 

Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://www.senedd.tv/archiveplayer.jsf?v=cy_200000_29_01_2013&t=0&l=cy

 

 

Cofnodion Cryno:

 

 

 

Aelodau’r Cynulliad:

 

William Powell (Cadeirydd)

Russell George

Joyce Watson

Bethan Jenkins (yn lle Elin Jones)

 

 

 

 

 

Tystion:

 

 

 

 

 

 

 

Staff y Pwyllgor:

 

Naomi Stocks (Clerc)

Kayleigh Driscoll (Dirprwy Glerc)

Helen Roberts (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

 

 

<AI1>

1.  Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Elin Jones AC, a dirprwyodd Bethan Jenkins AC ar ei rhan.

 

</AI1>

<AI2>

2.  Deisebau newydd

 

</AI2>

<AI3>

2.1P-04-448 Gwella gwasanaethau iechyd rhywiol yng ngorllewin y Fro

 

Bu’r Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb am y tro cyntaf, a chytunodd i ysgrifennu at:

·         y Gweinidog Iechyd a Gwasanethau Cymdeithasol i gael ei barn ar y ddeiseb; a

·         Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a’r Fro, yn gofyn a yw’n teimlo bod ganddo gyllideb ddigonol i weithredu gwasanaethau iechyd rhywiol yng ngorllewin y Fro ac a oes unrhyw gynlluniau i gael gwared ar y clinig presennol.

 

</AI3>

<AI4>

2.2P-04-449 Ysbyty Tywysoges Cymru Pen-y-bont ar Ogwr - Achub ein Gwasanaethau - Atal yr Israddio!

 

Bu’r Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb hon am y tro cyntaf, a chytunodd i ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Lleol Abertawe Bro Morgannwg, gan anfon copi at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, i ofyn eu barn ar y ddesieb, gofyn pa ymgynghoriad sydd wedi cael ei gynnal, sut y bydd yr ymgynghoriad hwn yn helpu i ddatblygu cynlluniau a phryd y bydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud ynghylch gwasanaethau ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

 

</AI4>

<AI5>

2.3P-04-450 Mae Angen Ysbyty Cwbl Weithredol ar y Barri a Bro Morgannwg

 

Bu’r Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb hon am y tro cyntaf, a chytunodd i ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a’r Fro, gan anfon copi at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, i ofyn ei barn ar y ddeiseb, gofyn pam nad yw Uned Mân Anafiadau Ysbyty’r Barri yn cynnig gwasanaeth 8 awr y diwrnod, 5 niwrnod yr wythnos, a gofyn sut y mae’r uned wedi’i staffio.

 

</AI5>

<AI6>

2.4P-04-451 Achub Gwasanaethau Ysbyty Brenhinol Morgannwg

 

Bu’r Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb hon am y tro cyntaf, a chytunodd i ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf, gan anfon copi at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, i ofyn pa ymgynghoriad sydd wedi’i gynnal, sut y bydd yr ymgynghoriad hwn yn helpu i ddatblygu cynlluniau a phryd y bydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud ynghylch gwasanaethau yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

 

</AI6>

<AI7>

2.5P-04-452 Hawliau Cyfartal i Bobl Ifanc Tiwb-borthedig

 

Bu’r Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb hon, a chytunodd i ysgrifennu at:

·         y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol;

·         y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol;

·         Comisiynydd Plant Cymru; a

·         Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i gael eu barn ar y ddeiseb.

 

Gall y Pwyllgor wneud darn byr o waith ar y ddeiseb hon yn dibynnu ar yr ymatebion sy’n dod i law.

 

</AI7>

<AI8>

2.6P-04-453 Gwelliannau ym Maes Awyr Caerdydd

 

Bu’r Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb hon am y tro cyntaf, a chytunodd i ysgrifennu at y deisebwyr yn gofyn eu barn ar y datblygiadau diweddar o ran y maes awyr, ac a yw’r datblygiadau hyn yn bodloni eu gofynion.

 

</AI8>

<AI9>

2.7P-04-454 Gwahardd yr Arfer o Ddal Swyddi fel Cynghorydd ac fel Aelod Cynulliad ar yr un Pryd

 

Bu’r Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:

·         y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau i ofyn ei farn ar y ddeiseb, a gofyn a oes ganddo unrhyw gynlluniau i gyflwyno deddfwriaeth neu ddigwygio deddfwriaeth bresennol;

·         y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol;

·         Comisiwn y Cynulliad;

·         y Cwnsler Cyffredinol, i gael eu barn ar y ddeiseb a:

·         gofyn am bapur briffio cyfreithiol ar y ddeiseb.

</AI9>

<AI10>

2.8P-04-455 Achub adran achosion brys yn Ysbyty'r Tywysog Philip

 

Bu’r Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb hon am y tro cyntaf, a chytunodd i aros am ymateb gan Fwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda i’r cais am ragor o wybodaeth am sut y mae’r broses ymgynghori wedi llywio’r broses o wneud penderfyniad.

 

</AI10>

<AI11>

3.  Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

 

</AI11>

<AI12>

3.1P-04-421 Rhwystro Trident rhag dod i Gymru

 

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth am y ddeiseb, a chytunodd i ysgrifennu at:

·         Lywodraeth y DU i ofyn a oes unrhyw drafodaethau wedi’u cynnal â Llywodraeth Cymru;

·         y deisebwyr i geisio eu barn ar ymateb y Prif Weinidog; ac

·         Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau i gael ei farn ar y ddeiseb.

 

</AI12>

<AI13>

3.2P-04-434 Mae’r Cymry a’r Somalïaid fel ei gilydd yn caru barddoniaeth

 

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth am y ddeiseb, ac yng nghyd-destun yr ymateb hwn, cytunwyd y dylid cau’r ddeiseb. Diolchodd y Pwyllgor i’r Llywydd am ymateb mor gadarn i’r ddeiseb.

 

</AI13>

<AI14>

3.3P-04-322 Galw am ryddhau gafael Cadw ar eglwysi yng Nghymru

 

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth am y ddeiseb, a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth i ofyn:

·         bod pob eglwys annibynnol yn rhan o waith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen;

·         pryd y mae’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn disgwyl cwblhau ei waith; a

·         bod y Pwyllgor yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd.

 

 

</AI14>

<AI15>

3.4P-03-236 Siarter i Wyrion ac Wyresau

 

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth am y ddeiseb, a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ofyn i’r Pwyllgor gael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru), ei fod yn cael amserlen ar gyfer ystyried y Bil a bod trawsgrifiadau o unrhyw drafodaethau perthnasol yn cael eu hanfon ato.

 

</AI15>

<AI16>

3.5P-03-187 Diddymu’r Tollau ar ddwy Bont Hafren

 

Bu’r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad ar effaith economaidd y Tollau ar ddwy Bont Hafren a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau i ofyn pa gamau y mae’r Llywodraeth yn bwriadu eu cymryd yn dilyn cyhoeddi’r astudiaeth, gyda’r bwriad o gau’r ddeiseb unwaith i’r wybodaeth hon ddod i law.

 

</AI16>

<AI17>

3.6P-03-240 Diogelwch ar ffordd yr A40 yn Llanddewi Felffre

 

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth am y ddeiseb, a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau yn gofyn i’r Pwyllgor gael gwybod pan fydd penderfyniad ar gyllid wedi cael ei wneud. Oherwydd bod ffordd osgoi flynyddoedd i ffwrdd, bod y Pwyllgor hefyd yn gofyn a ellir gwneud gwaith yn y cyfamser i helpu i leddfu pryderon ynghylch diogelwch llwybrau troed a chroesfannau.

 

Nododd Joyce Watson y byddai’n fodlon ymweld â Chyngor Cymuned Llanddewi Felffre.

 

</AI17>

<AI18>

3.7P-04-345 Cysylltiadau bws a rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin

 

</AI18>

<AI19>

3.8P-04-429 Ailagor y rheilffordd rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth

 

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth am y ddwy ddeiseb. Oherwydd ymateb Llywodraeth Cymru a’r diffyg cefnogaeth ar gyfer agor y rheilffordd, cytunwyd y dylid cau’r ddwy ddeiseb.

 

</AI19>

<AI20>

3.9P-04-363 Cynllun i Wella Canol Tref Abergwaun

 

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at:

·         y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau i rannu’r wybodaeth a gafwyd gan y deisebwr, nodi’r cyfnod hir y mae’r Pwyllgor wedi bod yn aros am ymateb a nodi’r anawsterau y mae hyn yn eu creu o ran galluogi’r Pwyllgor i ystyried y ddeiseb; ac

·         Arweinydd a Phrif Weithredwr Cyngor Sir Penfro, i ofyn a oes ganddynt unrhyw gynlluniau a chyllid digonol i ddwyn y cynllun hwn ymlaen.

 

Hefyd, cytunodd y Pwyllgor i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw ddatblygiadau i’r deisebwr.

 

</AI20>

<AI21>

3.10    P-04-409 Enwau Cymraeg i bob cefnffordd newydd yng Nghymru

3.11     

 

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth am y ddeiseb, a chytunodd i ysgrifennu at:

·         Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau yn egluro’r hyn y mae’r deisebwr yn gofyn amdano, a gofyn a yw hyn yn newid ei farn mewn perthynas â’r ddeiseb; a

·         Chomisiynydd y Gymraeg yn ceisio ei barn ar y materion sy’n cael eu codi gan y deisebwr.

 

</AI21>

<AI22>

3.12    P-04-376 Aildrefnu Addysg ym Mhowys

 

Bu’r Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb. Oherwydd datblygiadau diweddar, cytunwyd y dylid cau’r ddeiseb.

 

</AI22>

<AI23>

3.13    P-04-427 Cyfraith newydd ynghylch y Gymraeg

 

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth am y ddeiseb, a chytunodd i ysgrifennu at:

·         Gomisiynydd y Gymraeg yn gofyn a yw’n teimlo bod y ddeddfwriaeth bresennol yn gwarchod siaradwyr Cymraeg yn ddigonol, a pha fesurau pellach sydd eu hangen, os o gwbl; a’r

·         Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth yn gofyn iddi egluro a all y Llywodraeth gyflwyno deddfwriaeth o’r fath.

 

</AI23>

<AI24>

3.14    P-04-437 Gwrthwynebu cofrestru gorfodol ar gyfer plant sy’n derbyn addysg yn y cartref

 

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth Weinidogol am y ddeiseb, a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau yn gofyn iddo roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor unwaith y bydd penderfyniad ar y ffordd ymlaen wedi cael ei wneud.

 

</AI24>

<AI25>

3.15    P-04-442 Sicrhau cymorth da i blant anabl a'u teuluoedd sy’n agos i’w cartrefi

 

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth Weinidogol am y ddeiseb, a chytunodd i:

·         geisio eglurhad gan Lywodraeth Cymru ynghylch pryd y bydd yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn cael eu cyhoeddi;

·         ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad a nodi tystion posibl i roi tystiolaeth i’r Pwyllgor;

·         ysgrifennu at y deisebwyr a’r Gweinidog Addysg a Sgiliau yn gofyn iddynt gyflwyno tystiolaeth;

·         gwahodd Cymdeithas Prif Weithredwyr ac Uwch-reolwyr Awdurdodau Lleol Cymru i roi tystiolaeth lafar; a

·         nodi awdurdodau lleol sy’n dangos arfer da yn y maes hwn, a’u gwahodd i roi tystiolaeth lafar.

 

</AI25>

<AI26>

3.16    P-04-399 Arferion lladd anifeiliaid

 

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth am y ddeiseb, a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, yn gofyn iddo roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am ganfyddiadau’r ymgynghoriad a sut y bydd y rhain yn effeithio ar weithredu rheoliadau’r Undeb Ewropeaidd.

 

 

</AI26>

<AI27>

3.17    P-04-433 Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai

 

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth am y ddeiseb, a chytunodd i:

·         ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy i ofyn am eglurhad o sut y mae’n bwriadu dwyn mater teledu cylch cyfyng mewn lladd-dai yn ei flaen a’r amserlen ar gyfer gwneud hynny; a

·         chomisiynu papur ymchwil ar sut yr ymdrinir â’r mater hwn ledled Ewrop.

 

</AI27>

<AI28>

4.  Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

 

Cytunwyd ar y cynnig.

 

</AI28>

<AI29>

5.  P-04-335 Sefydlu tîm criced cenedlaethol i Gymru: Materion allweddol

 

Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb ynghylch sefydlu tîm criced cenedlaethol i Gymru a chytunodd ar gyfeiriad adroddiad.

 

</AI29>

<AI30>

6.  Derbynioldeb – materion nad ydynt wedi’u datganoli

 

Bu’r Pwyllgor yn trafod y broses o ganiatáu deisebau, a chytunodd i drefnu cyfarfod â’r Llywydd i drafod y broses hon ymhellach.

 

 

</AI30>

<AI31>

7.  Papurau i'w nodi

 

Cafodd y papurau eu nodi.

 

</AI31>

<AI32>

Trawsgrifiad

 

 

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.

</AI32>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</ TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</ COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>